Back

ⓘ Defnyddiau naturiol - Defnydd naturiol, Gardd, Rwber naturiol, Pridd, Defnydd cyfansawdd, Cemeg ..



                                               

Defnydd naturiol

Unrhyw gynnyrch neu ddefnydd materol syn dod o blanhigion, anifeiliaid, neur tir yw defnydd naturiol. Ystyrir fod mwynau a metalau a geir or ddaear yn ddefnyddiau naturiol hefyd. Mae defnyddiau naturiol yn cynnwys: Pren Defnydd organig Ffibrau naturiol Carreg Defnyddiau naturiol cyfansawdd Denfyddiau anorganig Metel Defnyddiau naturiol eraill. Pridd

                                               

Gardd

Lle a gynllunnir yw gardd, fel arfer yn yr awyr agored, er mwyn arddangos, tyfu, a mwynhau planhigion o bob math, yn ogystal â defnyddiau naturiol fel cerrig. Gall gardd gynnwys defnyddiau naturiol a dynol.

                                               

Rwber naturiol

Elastomer yw rwber naturiol, syn ddeillio yn wreiddiol o ddaliant coloidaidd tebyg i laeth, neu latecs, sydd iw ganfod mewn nodd rhai planhigion fel y llaethlys, y fflamgoed, pabïau, y dant y llew ac yn enwedig y planhigyn rwber ac y goeden rwber. Y sylwedd polyisoprene ywr ffurf sydd wedi cael ei phuro, a ellir ei gynhyrchun synthetig yn ogystal. Defnyddir rwber naturiol yn helaeth mewn nifer o ddefnyddiau a chynnyrch, yn yr un modd â rwber synthetig.

                                               

Pridd

Gall pridd fod yn olau fel tywod neu yn frowngoch, yn ysgafn a sych neu yn drwm ac yn wlyb a gall gynnwys cerrig mân, gronynnau bach caled sef tywod, darnau o blanhigion a phowdwr mân fel blawd. Os oes llawer o dywod ynddo bydd yn bridd ysgafn ond os gyda llawer o flawd bydd yn gleiog a thrwm. Bydd pridd tywodlyd yn naturiol yn sych gan nad ywr tywod yn dal y dwr. Ar y llaw arall bydd pridd cleiog yn dal gormod o ddŵr.

                                               

Defnydd cyfansawdd

Cyfuniad o ddau ddefnydd neu ragor yw defnydd cyfansawdd, a all fod yn naturiol neu wedi ei greu gan berson. Maen rhaid ir deunyddiau fod yn wahanol fel eu bod yn aros ar wahân ar y raddfa facroscopig ar raddfa ficroscopig. Plethwaith a chlai yw un or defnyddiau cyfansawdd synthetig hynaf. Mae concrit hefyd yn ddefnydd cyfansawdd, a defnyddir mwy ohono nag unrhyw ddefnydd synthetig arall yn y byd.

                                               

Cemeg

Astudiaeth mater yw Cemeg, syn ymwneud âi gystrawen, strwythur a nodweddion, ynghyd âi drawsnewidiadau ar y lefel atomig. Maen delio gan fwyaf gyda chasgliadau o atomau fel nwyon, moleciwlau, crisialau a metelau, yn ogystal âu trawsffurfiadau au rhyngweithiadau i ddod yn ddefnydd a ddefnyddir ym mywyd cyffredin. Yn ogystal â hynny, mae cemeg yn ymwneud â deall priodweddau a rhyngweithiadau o atomau unigol a defnyddior wybodaeth yna ar y lefel macrosgobig. Yn ôl cemeg fodern, mae priodweddau ffisegol defnyddiau wedi eu penderfynu ar y raddfa atomig, sydd yn ei dro yn cael ei ddiffinio gan r ...

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →