Back

ⓘ Cemeg. Astudiaeth mater yw Cemeg, syn ymwneud âi gystrawen, strwythur a nodweddion, ynghyd âi drawsnewidiadau ar y lefel atomig. Maen delio gan fwyaf gyda chasg ..



                                               

Homolysis

Cemeg
                                     

ⓘ Cemeg

Astudiaeth mater yw Cemeg, syn ymwneud âi gystrawen, strwythur a nodweddion, ynghyd âi drawsnewidiadau ar y lefel atomig. Maen delio gan fwyaf gyda chasgliadau o atomau fel nwyon, moleciwlau, crisialau a metelau, yn ogystal âu trawsffurfiadau au rhyngweithiadau i ddod yn ddefnydd a ddefnyddir ym mywyd cyffredin. Yn ogystal â hynny, mae cemeg yn ymwneud â deall priodweddau a rhyngweithiadau o atomau unigol a defnyddior wybodaeth yna ar y lefel macrosgobig. Yn ôl cemeg fodern, mae priodweddau ffisegol defnyddiau wedi eu penderfynu ar y raddfa atomig, sydd yn ei dro yn cael ei ddiffinio gan rymoedd electromagnetig rhyngatomig a deddfau mecaneg cwantwm.

Mae cemeg yn gorgyffwrdd â ffiseg, gan drin ynni a sut mae on adweithio gyda mater. Mae hefyd yn gorgyffwrdd cryn dipyn gyda bioleg, yn arbennig trwyr disgyblaethau cysylltiedig o fiocemeg a bioleg foleciwlaidd.

Maen bosib gweld trefn yr elfennau yn y Tabl Cyfnodol syn dangos y nifer o brotonau sydd gan bob un a beth yw pwysau atomaur elfen honno gan ddefnyddio Rhif Avogadro. Maen bosib gweld erthyglau sydd yn ymdrin â chemeg trwy edrych yn y categori cemeg.

Yng Nghymru, maen orfodol i fyfyrwyr ysgol astudio cemeg hyd at lefel TGAU 16 oed.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →