Back

ⓘ Chwilio a dinistrio. Strategaeth filwrol a ddefnyddiwyd gan yr Unol Daleithiau yn ystod Rhyfel Fietnam oedd chwilio a dinistrio a oedd yn sail i ymgyrch Byddin ..



Chwilio a dinistrio
                                     

ⓘ Chwilio a dinistrio

Strategaeth filwrol a ddefnyddiwyd gan yr Unol Daleithiau yn ystod Rhyfel Fietnam oedd chwilio a dinistrio a oedd yn sail i ymgyrch Byddin yr Unol Daleithiau yn Ne Fietnam. Danfonwyd milwyr Americanaidd i diriogaeth y gelyn gan ddefnyddio hofrennyddion ac byddent yn chwilio am luoedd comiwnyddol y Fiet Cong neu Ogledd Fietnam, lladd y gelyn, ac ynan encilion syth.

Mesurwyd llwyddiant y strategaeth trwy cyfrif cyrff, hynny yw y nifer or gelyn a laddwyd. Yr amcan oedd i beri colledigion enfawr ir Fiet Cong a byddin Gogledd Fietnam yn raddol trwy athreuliad, nes iddynt ildio. Er ir Americanwyr lladd nifer o luoedd comiwnyddol, ni chafodd hyn effaith ar eu gallu i ymladd. Lladdwyd 220.000 ohonynt rhwng 1965 a 1967, ond bu 200.000 o ddynion y flwyddyn yn cyrraedd yr oed consgripsiwn yng Ngogledd Fietnam, ac yr oedd y Fiet Cong yn recriwtio mwy a mwy o bobl o gefn gwlad y De.

Nid oedd tactegau confensiynol yr Americanwyr yn addas wrth ymladd rhyfel herwfilwrol mewn jyngloedd Fietnam. Er eu pwyslais ar ennill rhagoriaeth o ran mudoledd, dechreuwyd tua 90% or holl ysgarmesau a brwydrau gan luoedd comiwnyddol, nid lluoedd yr Unol Daleithiau. Oherwydd diffyg ymdrech gan yr Americanwyr a lluoedd De Fietnam i ddiogelu a chadw tiriogaeth ar ôl brwydrau, bur Fiet Cong yn aml yn dychwelyd yn syth i ardaloedd wedi ir Americanwyr gadael.

Roedd effaith chwilio a dinistrio ar gymdeithas De Fietnam yn ddinistriol ac yn wrth-gynhyrchiol i amcan yr Americanwyr o ennill "calonnau a meddyliaur" boblogaeth. Difrodwyd pentrefi a ffyrdd gan rym tanio a chliriwyd coedwigoedd a thir amaethyddol gan ddiddeilyddion. Lladdwyd hanner miliwn o sifiliaid, ac anafwyd un miliwn. Dadleolwyd eraill or cefn gwlad a bu raid iddynt symud ir dinasoedd gorlawn. Oherwydd y difrod i gnydau a bywyd amaethyddol, bu raid i Dde Fietnam mewnforio reis ym 1967. Dioddef wnaeth enw llywodraeth De Fietnam yn llygaid ei phobl.

Ynghyd âr rhyfel awyrennol yn erbyn Gogledd Fietnam trwy Ymgyrch Rolling Thunder, chwilio a dinistrio oedd yn ffurfio strategaeth ddeuddaint yr Americanwyr yn Fietnam.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →