Back

ⓘ Mathemateg bur. Y rhan honno o Fathemateg syn studiaeth o gysyniadau hollol haniaethol, heb ystyried sut iw cymhwyso nhw, yw mathemateg bur. Fei hadnabyddir fel ..



Mathemateg bur
                                     

ⓘ Mathemateg bur

Y rhan honno o Fathemateg syn studiaeth o gysyniadau hollol haniaethol, heb ystyried sut iw cymhwyso nhw, yw mathemateg bur. Fei hadnabyddir fel un o ddwy gangen o fewn mathemateg ers y 19g, pan sylweddolwyd ei bod yn wahanol i fathemateg gymhwysol a oedd yn datblygu i gyrraedd dibenion ymarferol yn ymwneud â hyd, arwynebedd a chyfaint mewn fforio, seryddiaeth, ffiseg a pheirianneg.

Cred eraill nad yw mathemateg bur o reidrwydd yn fathemateg gymhwysol: maen bosibl astudio endidau haniaethol mewn perthynas âu natur gynhenid heb boeni sut maen nhwn amlygu yn y byd go iawn. Er bod y safbwyntiau pur a chymhwysol yn safleoedd athronyddol gwahanol, yn ymarferol mae llawer o orgyffwrdd rhyngddynt.

Hyd y 19g, ni wahaniaethwyd rhyw lawer rhwng y gwahanol fathau o fathemateg, ond fe ddatblygodd mathemateg bur fel maes annibynnol yng ngwaith Karl Weierstrass ar ddadansoddi a Bertrand Russell yn yr 20g. Cyn y 19g gelwid y ddisgyblaeth hon yn "fathemateg rhagfynegiol" speculative mathematics.

I ddatblygu modelau cywir ar gyfer disgrifior byd go iawn, mae llawer o fathemategwyr cymwys yn tynnu ar offer a thechnegau syn aml yn cael eu hystyried yn fathemateg "bur". Ar y llaw arall, mae llawer o fathemategwyr pur yn tynnu ar ffenomenau naturiol a chymdeithasol fel ysbrydoliaeth ar gyfer eu hymchwil haniaethol.

                                     

1. Hanes

Roedd mathemategwyr hynafol Groeg ymhlith y cynharaf i wneud gwahaniaeth rhwng mathemateg pur a chymhwysol. Helpodd Plato i greur bwlch rhwng "rhifyddeg", a elwir bellach yn "theori rhif", a "logisteg", a elwir heddiw yn "rhifyddeg".

Ar ddechraur 20g, fe fabwysiadodd mathemategwyr y dull gwirebol Axiomatic method, dan ddylanwad David Hilbert 1862–1943 ac eraill. Edrychodd y damcaniaethau hyn yn fwyfwy rhesymol, wrth i waith Bertrand Russell ac Alfred North Whitehead osod llawer o fathemateg ar y sylfaen hwn.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →