Back

ⓘ Atmosffer y Ddaear. Mantell o nwyon amddifynnol o amgylch y Ddaear yw atmosffer y ddaear syn ein hynysu oddi wrth newidiadau tymheredd eithafol a fyddain digwyd ..



Atmosffer y Ddaear
                                     

ⓘ Atmosffer y Ddaear

Mantell o nwyon amddifynnol o amgylch y Ddaear yw atmosffer y ddaear syn ein hynysu oddi wrth newidiadau tymheredd eithafol a fyddain digwydd hebddo.

Mae tynfa disgyrchiant yn cynyddur dwysedd yn nês at arwynebedd y ddaear fel bod 80% or màs atmosfferig yn y 15 km isaf.

                                     

1.1. Tymheredd ac haenaur atmosffer Troposffer

Cyfyngir tywydd y ddaear ir haen gymharol denau syn ymestyn tua 8 km uwchben y pegynnau a thua 15 km uwch y gyhydedd. Maen cynnwys 85% or màs atmosfferig ar anwedd dŵr i gyd bron. Mae tymheredd yr aer yn gostwng 1 °C ymhob 165 m o gynydd mewn uchder.

                                     

1.2. Tymheredd ac haenaur atmosffer Stratosffer

Haen yr awyrgylch syn cynnwys 90% or osôn ywr stratosffer. Maer haen denau o osôn yn y stratosffer yn amsugno golau uwchfioled gan gynhyrchu gwres yn y broses. Amrywiar tymheredd o tua -75 °C yn y tropoffin yn y trofannau i tua 10 °C yn y stratoffin uwchben pegyn yr hemisffer haf. Y tropoffin syn gwanhanu rhan ymar atmosffer oddi wrth y Troposffer.

                                     

1.3. Tymheredd ac haenaur atmosffer Mesosffer

Haen uwchben y stratoffin ydyr mesosffer. Maer tymheredd yn gostwng gyda chynnydd mewn uchder. Gall tymheredd y mesoffin gyrraedd -130 °C sef rhan oeraf yr awyrgylch; mae hyn yn digwydd uwchben pegyn yr hemisffer yn yr haf nid gaeaf oherwydd cylchrediad yr awyr.

                                     

1.4. Tymheredd ac haenaur atmosffer Thermosffer

Maer thermosffer wedi ei leoli uwch y mesosffer ac is yr ecsosffer. Mae ymbelydredd uwch fioled yn achosi ïoneiddiad yma. Maer thermosffer yn dechrau tua 90 km uwch y ddaear ac yn ymestyn tua 600 km.

                                     

1.5. Tymheredd ac haenaur atmosffer Ecsosffer

Maer ecsosffer yn ymdoddi ir cyfrwng rhyngblanedol ac maen dechrau tua 600 km uwch wyneb y ddaear. Prif gynnwys yr aer tenau yw swm bychan o ocsigen atomig i fyny at 600 km a chyfran gyfartal o hydrogen ac heliwm. Mae yna fwy o hydrogen nag o heliwm y tu hwnt i 2400 km.

                                     

2. Carbon deuocsid yn atmosffer y Ddaear

Mae Carbon deuocsid CO 2 yn nwy hynod bwysig yn atmosffer y Ddaear. Maen 0.04% 400 rhan allan o filiwn or atmosffer. Er mai cymharol isel ywr cryodiad ohono yn yr atmosffer, fe all CO 2 weithredu fel nwy tŷ gwydr ac mae iddo rôl bwysig iawn yn y broses o reoli tymheredd wyneb y Ddaear.

Mae CO 2 yn amsugno ac yn allyru ymbelydredd isgoch ar donfedd o 4.26 µm modd dirgrynol a 14.99 µm modd dirgrynol a phlygiadol. Casglwyd gwybodaeth am grynodiadau a lefelau CO 2 ers blynyddoedd, a gwelir nad ywn sefydlog. Maer datan dangos ei fod wedi newid yn sylweddol gydar amrediad at ei uchaf tua 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl 7.000 rha mewn miliwn yn ystod y cyfnod Cambriaidd ac ar ei isaf 180 rhan mewn miliwn yn ystod y Rhewlifiad cwaternaidd, sef o 2.58 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol CP hyd at y presennol.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →