Back

ⓘ Tywydd yw cyflwr yr atmosffer ar foment mewn amser. Gall tywydd amrywio yn fawr iawn dros gyfnod byr iawn. Mesuriad o dywydd dros gyfnod hir yw hinsawdd. ..



Tywydd
                                     

ⓘ Tywydd

Tywydd yw cyflwr yr atmosffer ar foment mewn amser. Gall tywydd amrywio yn fawr iawn dros gyfnod byr iawn. Mesuriad o dywydd dros gyfnod hir yw hinsawdd.

                                     

1. Tywydd y Ddaear

Ar y Ddaear, rydym yn profi ffenomenau tywydd megis gwynt, glaw, eira a niwl yn aml. Rydym yn profi trychinebau naturiol megis corwyntoedd, troellwyntoedd, a stormydd iâ yn llai aml. Maer ffenomenau hyn yn digwydd oherwydd Troposffer sef sector isaf yr atmosffer. Mae tywydd yn digwydd ar y ddaear yn anad dim oherwydd dwysedd a thymheredd rhannau gwahanol yr atmsoffer.

Ffenomenau yr ydym yn gweld yn aml ar y ddaear:

                                     

2. Cwmwl

Casgliad o ddiferynnau neu risialau wedi rhewi yn yr awyr yw cwmwl Lladin: cumulus. Ar y ddaear, dŵr ywr elfen syn eu ffurfio. Rhennir cymylau yn ddau brif ddosbarth, cymylau stratus or Lladin stratus, yn golygu "haen" a chymylau cumulus Lladin, "wedi eu pentyrru".

                                     

3. Diwasgedd

Pan mae dau aergorff gwahanol yn cwrdd, maer ffin rhyngddynt yn cael ei galwn "ffrynt". Aergorff yw dau wahanol fath o aer. Ym Mhrydain mae hyn iw weld pan mae aer oer pegynnol yn cwrdd ag aer cynnes trofannol. Mae diwasgeddau yn gysylltiedig ag ardaloedd gwasgedd isel oherwydd maer aer o fewn y diwasgedd yn codi a throi.

                                     

4. Llên, llyfr a llafar

Hanesion yn dangos pwysigrwydd y tywydd i bobl men ffyrdd anisgwyl:

  • Ceir nifer o ganeuon plant am y tywydd gan gynnwys: "Maen bwrw glaw yn sobor iawn!" acheir rhai hen benillion hefyd
Mae gen i ac mae gan lawer Gloc ar y mur i ddweud yr amser, Mae gan Moses Pant-y-meysydd Gloc ar y mur i ddweud y tywdd.
  • Mewn cyfweliad gyda William Owen o Ddyffryn Ardudwy ar raglen Dei Tomos BBC Radio Cymru ym mis Tachwedd y llynedd, soniodd WO am ei fam Rhinogwen yn cael ei geni ar yr un diwrnod â Kyffin Williams! pan oedd eira ar y Rhinogydd gerllaw. Felly y cafodd ei henw Rhinogwen. Y dyddiad hwyr oedd 9ed Mai 1918. Oedd yna eira ar y mynyddoedd ym mis Mai y flwyddyn honno ynteu rhamant teuluol ydoedd?
  • Ar ôl cael hanes Rhinogwen yn y rhifyn diwethaf, dyma berson arall yn rhannu hanesyn bod ei henw yn gofnod tywydd.
26 Medi 1954: Heulwen Jones yn dweud iddi gael ei geni adref yn Llanberis y diwrnod hwn ai mam yn gyndyn oi galw yn Heulwen i ddechrau gan fod storm o law a gwynt y diwrnod hwnnw. "Mi fydd hin heulwen ti yn fuan iawn siwr i ti" meddai rhywun! A Heulwen oedd hi.
Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →