Back

ⓘ Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Corff statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 oedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Derbyniodd y Bwrdd g ..



Bwrdd yr Iaith Gymraeg
                                     

ⓘ Bwrdd yr Iaith Gymraeg

Corff statudol a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU fel rhan o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 oedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Derbyniodd y Bwrdd grant blynyddol gan y llywodraeth, £13.4 miliwn yn 2006–7, a oedd i fod iw ddefnyddio er mwyn "hybu a hwyluso" defnydd or iaith Gymraeg. Roedd y Bwrdd yn gyfrifol am weinyddu Deddf yr Iaith Gymraeg, ac am sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cadw at ei rheolau. Gellir ystyried Cyngor yr Iaith Gymraeg, a sefydlwyd yn 1973, fel cynsail at sefydlur Bwrdd.

Cadeirydd cyntaf y Bwrdd oedd Dafydd Elis-Thomas. Y cadeirydd o Awst 2004 hyd 2012 oedd Meri Huws.

                                     

1. Agweddau at y Bwrdd

Beirniadwyd y Bwrdd gan rai, yn honni nad oedd grym ganddo dros y cyrff cyhoeddus ac yn ei feirniadu am fethu hyrwyddor iaith o fewn y sector preifat.

Agwedd ymgyrchwyr dros y Gymraeg oedd gweld y Bwrdd yn offeryn diddannedd a biwrocrataidd yn yr ymgyrch i arbed yr iaith Gymraeg. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ei feirniadun llym, gan ymgyrchu am ddeddf iaith newydd.

                                     

2. Diddymu

Diddymwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar 31 Mawrth 2012 dan delerau Mesur y Gymraeg Cymru 2011. Trosglwyddwyd ei ddyletswyddau i Lywodraeth Cymru ac i Gomisiynydd y Gymraeg, swydd newydd a grewyd dan y mesur.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →