Back

ⓘ Pryf. Anifeiliaid di-asgwrn-cefn sydd yn perthyn ir dosbarth Insecta yw pryfed. Y pryfed ywr dosbarth mwyaf yn y ffylwm Arthropoda ac yn cynnwys mwy nag 800.000 ..



                                               

Gwe

Rhywbeth wedi ei blethu neu ei wau yw gwe. Gall gyfeirio at un o sawl peth: Gwer pryf copyn, rhwydwaith a weir gan bryf copyn i ddal ei brau Gwe Fyd-eang, y rhwydwaith o wefannau ar y rhyngrwyd Gweler hefyd: Gwefan Porwr gwe

Pryf
                                     

ⓘ Pryf

Anifeiliaid di-asgwrn-cefn sydd yn perthyn ir dosbarth Insecta yw pryfed. Y pryfed ywr dosbarth mwyaf yn y ffylwm Arthropoda ac yn cynnwys mwy nag 800.000 o rywogaethau - mwy nag unrhyw ddosbarth arall o anifeiliaid. Mae gan bryfed chwe choes. Gall fod hyd at dau bâr o adenydd ganddynt hefyd. Mae pryfed yn byw ymhob amgylchedd ar y ddaear, er mai dim ond ychydig o rywogaethau ohonynt syn byw yn y môr.

                                     

1. Rhestr pryfed

  • Chwilen gorniog Stag beetle: Lucanus cervus
  • Cardwenynen Carder bumble-bee: Bombus humilis a Shrill carder bee Bombus sylvarum
  • Chwannen Flea: Siphonaptera
  • Ceiliog y rhedyn Grashopper: Orthoptera
  • Chwilen ddŵr Water beetle: Bidessus minutissimus
  • Chwilen ddu Cockroach: Blattodea
  • Chwilen ddaear Ground beetle: Lionychus quadrillium, Panagaeus crux-major a Perileptus areolatus
  • Cacynen Wasp: Apocrita
  • Coenagrion Benfro Southern damselfly: Coenagrion mercuriale
  • Chwilen grwydr Rove beetle: Meotica anglica
  • Chwilen Beetle, Coleoptera
  • Chwilen deigr Tiger beetle: Cicindela germanica
  • Gwenynbryf smotiog Dotted beefly: Bombylius discolor
  • Gwenynen Bee: Apoidea
  • Morgrugyn Ant: Formicidae
  • Gwyfyn: Moth: Heterocera
  • Lleuen Louse: Phthiraptera
  • Glöyn byw Butterfly: Papilionoidea
  • Gwiddonyn Weevil: Curculionoidea
  • Gwas y neidr Dragonfly: Odonata
  • Morgrugyn gwyn Termite: Isoptera
  • Morgrugyn dur gors Black bog ant: Formica candida
  • Pryf y cerrig Stonefly: Plecoptera
  • Pryf clust Earwig: Dermaptera
  • Pryf pigfain Stiletto fly: Cliorismia rustica
  • Pryf Fly
  • Pryf soldiwr Soldier fly: Odontomyia hydroleon
  • Pryf tân Firefly: Lampyridae
  • Pryf teiliwr Cranefly: Tipulidae
  • Pryf lladd Hornet robber fly: Asilus crabroniformis, Spiriverpa Thereva lunulata a Thinobius newberyi)
  • Saerwenynen Mason bee: Osmia parietina a Osmia xanthomelana
                                     

2. Enwau Cymraeg ar y trychfilod

Bu sawl ymdrech dros y blynyddoedd i gasglu ac i safoni enwaur holl deuluoedd a rhywogaethau trychfilod, weithiau yn systematig fesul grwp, dro arall fesul rhywogaeth unigol mewn ymateb i geisiadau brys gan gyfieithwyr. Cynhwysar rhestrau a wnaed yn systematig grwpiau fel y gwyfynod, y glöynnod byw y gweision neidr ar buchod cwta.

Gwnaethpwyd hefyd y gwaith casglu paratoadol ar gyfer grwpiau eraill megis y gwenyn au tebyg er mwyn bod mor driw a phosib ir termau llafar sydd ar gael pan yn eu safoni. Dyma un enghraifft or gwaith paratoadol hwn gan Twm Elias ac O.T. Jones

Ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ar Cylch, 1981, cynhaliwyd arbrawf gan aelodau or Gymdeithas i geisio gweld pa enw a ddefnyddir ar bedair rhywogaeth adnabyddus o drychfilod yng ngwahanol ardaloedd Cymru. Dewiswyd y wenynen ’Apis mellifera’’; S. ’Honey Bee’’, y cacwn rhu. ’Bombus’’; ’S. Bumble Bee’’, Gwenyn Meirch rhu. ’Vespula’’; S. ’wasp’’ a Robin y Gyrrwr Teuluoedd ’Oestridae’’ a ’Gasterophilidae’’; S. ’Warble Fly’’ neu ’Gad Fly’’, ’Horse Bot Fly’’ fel rhywogaethau i’w hastudio. Ym mhabell Gwasg Dwyfor y cynhaliwyd yr arbrawf. Yno gosodwyd lluniau ardderchog Ann Garrod or bedair rhywogaeth gydag enghreifftiau o bob un wedi ei binio allan; hefyd map o Gymru ar gyfer bob un. Gwahoddwyd ymwelwyr ir babell i roddi eu henwau arbennig hwy ar y pedair rhywogaeth ac i leoli symbol a gyfatebai ir enwau hynny ar eu broydd genedigol ar y mapiau. Fe welir y canlyniadau a gafwyd ar y mapiau. a) Gwenynen ll. gwenyn Maen amlwg mai dymar enw a ddefnyddir drwy Gymru gyfan. Defnyddir hefyd Gwenynen Fêl, Gwenynen ddu Gymreig a Gwenynen Ddof gan wenynwyr b Cacynen ll. cacwn Drwy’r gogledd yn gyffredinol, y gair a ddefnyddir yw cacwn ac fei ceir rnewn rhannau or de hefyd, sef gogledd Penfro a dyffryn Teifi. Ond fe geir amrywiaethau diddorol yma yn ogystal, sef cachgi bwm neu caci bwm yn nyffryn Tywi ac yng Ngheredigion, tra bod picynen fawr a bili bomen iw cael yn amlach yng Nghwm Tawe, Cawsom hefyd yr amrywiaethau canlynol ond yn aml heb enghraifft or fath gan berson arall cacynen fawr Dinas Mawddwy: cacwn mwnci, Sir Fôn, cacwn meirch Bethesda, bwmsen Llanddarog, bombi Pontiets a bombili Brynaman. c) Gwenynen Feirch ll. Gwenyn Meirch Fel y gwelir oddiwrth y mapiau, ceir dosbarthiad diddorol lawn ir enw yma o ogledd-orllewin Cymru Môn, Arfon a rhan o Feirion ar hyd yr arfordir i lawr i ddyffryn Teifi a gogledd Sir Benfro. cacwn a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o Glwyd ac hefyd i lawr i Ddyfi hyd at y môr. Yng nghanolbarth Ceredigion ceir yr enw piffci ll. piffcwn ac ynon unig hyd y gwelwn ni y gair mwyaf cyffredin am y trychfilyn yma yn Sir Gaerfyrddin a dwyrain Morgannwg yw picwnen ll. picwn. Ceir hefyd picacwnen yn Llanelli a Burry Port a picagwnen’ yn Ystalyfera a Llangyfelach. Yn y gogledd fe gawsom hefyd amrywiaethau ar y gair cacwn - cacwn brith rhwng dyffrynnoedd Clwyd a Chonwy, cacwn meirch, Tremadog a Phenygroes, cacwn geifr neu ar lafar Cacwn Gifir, cacwn bach Llanfyllin a Dyffryn Tanat a Cacwn y Cythraul Penuwch yng Ngheredigion. ch Robin y Gyrrwr Mae amryw o rywogaethau a elwlr yn Robin y Gyrrwr neu ei amrywiaethau. Eu nodwedd bwysicaf yw eu bod oll yn gwneud swn uchel tra’n hedfan ac yn achosi i wartheg a cheffylau i ddychryn a rhedeg - ystodi ywr enw a roddir ar yr ymateb hwn yn Sir Fôn. Trwy ogledd Cymru ac ar arfordir gogledd Penfro y gair a ddefnyddir yw Robin y Gyrrwr. Ym Mhont Senni a Threcastell yn Sir Frycheiniog ceir yr enw Robin Dreifar’. Yn Sir Gaerfyrddin y gair Robin yn unig a ddefnyddir tra yng Nghwm Tawe fe galedir y b yn y gair i ropin’. Y gair traddodiadol am gynrhon robin y gyrrwr a geir yn magu o dan groen cefn gwartheg yw gweryd’, ac fe geisiwyd yn y blynyddoedd diwethaf gan y Weinyddiaeth Amaeth ac eraill, i gael pobol i ddefnyddio pryfed gweryd’ am y pryfed aeddfed a ddatblyga or cynrhon syn magu mewn gwartheg. Fel y gwelir oddiwrth y mapiau, maer enw yma yn cael ei ddefnyddio mewn rhannau or gogledd. Mewn hen lyfrau or ganrif ddiwethaf ceir enwau fel cacwn y cwn’ neu cacwn y meirch’, a chacwn yr ych am robin y gyrrwr ond ni chafwyd ond un neu ddau o enghreifftiau or gair cacwn yn y cyd-destun yma. Fe allem ddamcaniaethu mai yn y gorffennol cacwn yr ych’, cacwn geifr’ a chacwn y meirch a ddefnyddid am y rhywogaethau hynny a ymosodai ar wartheg, geifr a cheffylau ond bod robin y gyrrwr yn cael el arfer yn ddiweddarach am yr holl rywogaethau. Efallai fod cysylltiad hefyd rhwng yr enwau hyn ar defnydd o wenyn meirch yng Ngwynedd, yr enw hwn wedi ei drosglwyddo bellach, fodd bynnag, i gyfateb ar Saesneg ’wasp’.
Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →