Back

ⓘ Menter Iaith. Corff neu gyfundrefn seiliedig ar y gymuned syn gweithio i godi proffiliau yr iaith Gymraeg o fewn bro leol yw Menter Iaith. Mae Mentrau Iaith yn ..



                                     

ⓘ Menter Iaith

Corff neu gyfundrefn seiliedig ar y gymuned syn gweithio i godi proffiliau yr iaith Gymraeg o fewn bro leol yw Menter Iaith. Mae Mentrau Iaith yn cydweithio gydag unigolion, cyrff a busnesau lleol i hyrwyddor defnydd or iaith yn y fro.

Y Fenter Iaith gyntaf i gael ei sefydlu oedd Menter Cwm Gwendraeth yn ardal Cwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, yn 1991. Fel rheol, mae Menter Iaith yn gweithredu o fewn ardal a ddiffinir gan yr awdurdod lleol, ac eithrio yn achos Sir Gaerfyrddin a Phowys lle ceir nifer o Fentrau Iaith llai syn gweithio ar lefel mwy lleol, a Chasnewydd a Gwynedd, sydd heb Fentrau Iaith ar hyn o bryd. Yng Nghasnewydd ceir partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a Bwrdd yr Iaith a elwir Cymraeg Casnewydd, syn gweithredu yn yr un modd â Menter Iaith.

Cydlynir gwaith y Mentrau Iaith gan Mentrau Iaith Cymru, corff ymbarél syn cynnig platfform cenedlaethol ir Mentrau lleol rannu gwybodaeth a syniadau.

                                     

1. Rhestr o Fentrau Iaith

  • Menter Iaith Llanelli - Llanelli, Sir Gaerfyrddin
  • Menter Caerdydd - Caerdydd
  • Menter Iaith Bro Dinefwr - ardal Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
  • Menter Iaith Merthyr - Merthyr Tydfil
  • Menter Iaith Sir Caerffili - Caerffili
  • Menter Iaith Gorllewin Sir Gar - gorllewin Sir Gaerfyrddin
  • Menter Iaith Sir y Fflint - Sir y Fflint
  • Menter Iaith Bangor - Bangor
  • Menter Iaith Brycheiniog - ardal Brycheiniog, de Powys
  • Menter Iaith Maldwyn - ardal Maldwyn, gogledd Powys
  • Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen, a Mynwy - Blaenau Gwent
  • Menter Iaith Rhondda Cynon Taf - Rhondda Cynon Taf
  • Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot - Castell-nedd Port Talbot
  • Menter Iaith Sir Benfro - Sir Benfro
  • Hunaniaith - Gwynedd
  • Menter Iaith Abertawe - Abertawe
  • Menter Iaith Môn - Ynys Môn
  • Menter Iaith Dinbych - Sir Ddinbych
  • Menter Iaith Conwy - Sir Conwy
  • Menter Iaith Bro Ogwr - Pen-y-bont ar Ogwr
  • Menter Iaith Cwm Gwendraeth - Cwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin
  • Menter Iaith Bro Morgannwg - Bro Morgannwg
  • Menter Iaith Maelor - ardal Maelor, Wrecsam
  • Cered: Menter Iaith Ceredigion - Ceredigion
Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →