Back

ⓘ Cors Caron. Cors yng nghanolbarth Ceredigion yw Cors Caron, hefyd Cors Goch Glan Teifi. Saif ar lan Afon Teifi ychydig ir gogledd o dref Tregaron, wedi ei rhann ..



Cors Caron
                                     

ⓘ Cors Caron

Cors yng nghanolbarth Ceredigion yw Cors Caron, hefyd Cors Goch Glan Teifi. Saif ar lan Afon Teifi ychydig ir gogledd o dref Tregaron, wedi ei rhannu rhwng cymunedau Tregaron ac Ystradmeurig.

Maen un or ddwy gyforgors fwyaf yng Nghymru; Cors Fochno ywr llall. Llunir cyforgorsydd mewn mannau lle mae dŵr yn casglu oherwydd traeniad gwael. Ffurfir mawn, gan fod diffyg ocsigen yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Bydd ymgasgliad y mawn yn codi arwyneb y gors uwchben y tir oi chwmpas i ffurfio llun cromen. Ceir tair cromen fel hyn yng Nghors Caron, gydag Afon Teifi yn llifo rhyngddynt.

Ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, ffurfiwyd llyn yma, ac wedi ir argae naturiol oedd yn dal y dŵr gael ei fylchu, troes yn gors a dechreuodd mawn ffurfio. Ar un adeg roedd y trigolion lleol yn torri mawn or gors ar gyfer tanwydd.

Maer gors, sydd tua 800ha o arwynebedd, yn warchodfa natur. Ganed James Kitchener Davies gerllawr gors.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →