Back

ⓘ Iaith ddadelfennol. Iaith heb ffurfdroadau syn cyfleu perthnasau gramadegol drwy ddefnyddio geirynnau neu drwy gystrawen neu ymadrodd mewn perthynas â geiriau e ..



                                     

ⓘ Iaith ddadelfennol

Iaith heb ffurfdroadau syn cyfleu perthnasau gramadegol drwy ddefnyddio geirynnau neu drwy gystrawen neu ymadrodd mewn perthynas â geiriau eraill yw iaith ddadelfennol neu iaith analytig. Mewn ieithoedd dadelfennol maer morffemau yn rhydd, hynny yw, mae pob morffem yn air ar wahân.

                                     

1. Enghreifftiau

Dosberthir ieithoedd fel naill ai dadelfennol neu synthetig. Gwneir hyn drwy roi mesuraid morffem-y-gair ar iaith. Hynny yw, geiriau wediu cyfansoddi o un morffem syn dueddol o fod gan ieithoedd dadelfennol. Mae unrhyw iaith sydd â chymhareb forffem-y-gair mwy nag 1 yn iaith synthetig. Dangosir morffemau isod:

  • Yn y gair Cymraeg merch dim ond un morffem sydd ac felly mae gan y gair gymhareb forffem-y-gair o 1:1.
  • Ond mae gan y gair gwyddoniaethau dri morffem ac felly mae gan y gair hwn gymhareb forffem-y-gair o 3:1.

Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel Fietnameg, Tsieineeg ar iaith Thai yn dueddol o fod yn ddadelfennol. Yn Tsieineeg dim ond un morffem sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir ffurfdroadau i fynegi cyflwr ar enwau neu amser ar ferfau, ond yn hytrach, mae hin dibynnu ar gyd-destun, safle a geirynnau. Er enghraifft, yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar gystrawen i ddangos y berthynas rhwng y goddrych ar gwrthrych:

Gellir dweud bod dim morffoleg gan ieithoedd dadelfennol.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →