Back

ⓘ Athroniaeth y meddwl. Cangen o athroniaeth yn ymwneud ag ontoleg a natur y meddwl a’i berthynas âr corff yw athroniaeth y meddwl. Y prif bwnc syn tynnu sylw ath ..



Athroniaeth y meddwl
                                     

ⓘ Athroniaeth y meddwl

Cangen o athroniaeth yn ymwneud ag ontoleg a natur y meddwl a’i berthynas âr corff yw athroniaeth y meddwl. Y prif bwnc syn tynnu sylw athroniaeth y meddwl ydy problem y meddwl a’r corff.

Datblygodd y gysyniadaeth gyfoes ynglŷn ag athroniaeth y meddwl yn sgil gwaith René Descartes 1596–1650, a’i ddamcaniaeth a elwir deuoliaeth Gartesaidd neu ddeuoliaeth seicogorfforol. Disgrifia Descartes holl-wahaniaeth metaffisegol rhwng dwy fath o sylwedd, y meddyliol neur seico ar corfforol neu ffisegol. Gwrthwynebir deuoliaeth gan y monyddion, sydd yn dal taw un fath o sylwedd yn unig sydd yn y bydysawd. Y ddwy brif ffurf ar fonyddiaeth, wrth gwrs, yw delfrydiaeth, sydd yn haeru taw realiti y meddwl ydyr unig wirionedd, a materoliaeth, sydd yn cydnabod bodolaeth mater ffisegol yn unig.

                                     

1. Deuoliaeth

Yn ôl Descartes, dwy fath o sylwedd sydd yn y bydysawd: y meddyliol ar corfforol. Meddyliau, neu ymwybyddiaeth, yw hanfod y meddwl, ac estyniad neu ddimensiwn gofodol yw hanfod y byd materol. Natur anwahanadwy, ac felly anninistriadwy, sydd gan y meddwl, tra bo cyrff yn anfeidraidd wahanadwy. Honna hefyd bod y meddwl yn ymddwyn yn rhydd, tra bod natur ffisegol y corff yn ei bennu, ac felly yn ei gyfyngu. Trwy ei ddatganiad enwog cogito, ergo sum "meddyliaf, felly yr wyf", dywed Descartes ein bod yn gwybod y meddwl yn uniongyrchol; ar y llaw arall, gwyddys cyrff trwy foddion anuniongyrchol.

Mae athronwyr eraill wedi mynegi sawl gwrthwynebiad i ddeuoliaeth Gartesaidd yn y ddadl dros broblem y meddwl ar corff. Y briff drafferth ydy esbonio sut maer meddwl ar corff yn rhyngweithio a sut y gallair naill effeithio yn achosol ar y llall os ydynt yn hanfodol wahanol. Gwrthwynebir damcaniaeth Descartes hefyd am iddo bwysleisio rhyddid y meddwl mewn cyferbyniad â chyfyngiad y corff: gan fod y corff yn cyfyngu ar ddymuniadaur meddwl, ymddengys y fath ryddid yn amherthnasol. Mae sawl gwrthwynebiad sgeptigaidd i ddeuoliaeth, er enghraifft, sut y gallem wybod bodolaeth meddyliau eraill, a sut y gallem wybod y byd allanol o gwbl? Ar bwnc yr ymwybod, sut maen bosib i feddwl fod yn anymwybodol, er enghraifft ynghwsg? Mae anifeiliaid hefyd yn peri anhawster i ddeuoliaeth, gan eu bod yn ymddwyn fel petai ganddynt feddwl. Gan fod y meddwl yn anninistriadwy, byddai anifeiliaid yn ogystal â bodau dynol yn meddu ar enaid tragwyddol. Byddai hyn yn codi sawl cwestiwn ynglŷn â natur anifeiliaid, o safbwyntiau crefyddol ac athronyddol. Methiant a fu ymdrechion i ymateb ir gwrthwynebiadau hyn o fewn y fframwaith Cartesaidd, ac felly try nifer o athronwyr at ddamcaniaethau monyddol i geisio datrys problem y meddwl ar corff.

                                     

2. Monyddiaeth

Delfrydiaeth

Yn ôl damcaniaethau delfrydaidd, ni ellir gwahaniaethu rhwng realiti a chanfyddiad neu ddirnadaeth ddynol. Yn nhermau athroniaeth y meddwl, felly, y byd meddyliol ydyr unig wirionedd, a ni ellir ystyried mater ffisegol yn ddirweddol. Bur gwrthwynebiad delfrydaidd i ddeuoliaeth Gartesaidd ar ei anterth hyd at ddiwedd y 19g.

Materoliaeth

O ganlyniad i dwf y gwyddorau ffisegol ar llu o ddarganfyddiadau a datblygiadau ym meysydd ffiseg, seryddiaeth, cemeg, ar gwyddorau daear ers dechraur 20g, trodd nifer o athronwyr yn erbyn delfrydiaeth.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →