Back

ⓘ Meddwl grŵp. Ffenomen seicolegol syn digwydd o fewn i grŵp o bobl yw meddwl grŵp ; maer dyhead am harmoni neu gydymffurfiaeth yn arwain at wneud penderfyniadau ..



                                     

ⓘ Meddwl grŵp

Ffenomen seicolegol syn digwydd o fewn i grŵp o bobl yw meddwl grŵp ; maer dyhead am harmoni neu gydymffurfiaeth yn arwain at wneud penderfyniadau afresymol neu gamweithredol. Mae aelodaur grŵp yn ceisio lleihau effaith gwrthdaro a chyrraedd penderfyniad ar y cyd heb asesiad beirniadol o wahanol safbwyntiau. Gwneir hynny trwy atal safbwyntiau anghydsyniol ac ynysu eu hunain rhag dylanwadau allanol.

                                     

1. Nodweddion

Mae meddwl grŵp yn gwneud i unigolion osgoi codi materion dadleuol neu gynnig datrysiadau amgen, ac maen arwain at golli creadigrwydd, unigrywiaeth a meddwl annibynnol mewn unigolion. Mae deinameg camweithredol y grŵp "y grŵp mewnol" yn creu "rhith o anhyglwyfedd" gor-sicrwydd bod y penderfyniad cywir wedii wneud. Mae gan y grŵp lawer gormod o feddwl oi allu ei hun wrth wneud penderfyniadau ac yn meddwl yn rhy isel o allu ei wrthwynebwyr "y grŵp allanol". Ymhellach, gall meddwl grŵp arwain at weithredoedd dad-ddyneiddiol yn erbyn y grŵp allanol.

Mae ffactorau rhagflaenol fel undod grŵp, strwythur grŵp diffygiol, a chyd-destun amgylchiadol e.e. panig cymunedol yn dylanwadu ar y tebygolrwydd o feddwl grŵp yn effeithio ar y proses o wneud penderfyniadau.

Dyfais seicoleg gymdeithasol yw meddwl grŵp, ond maen ymestyn yn eang ac yn dylanwadu ar lenyddiaeth ym meysydd astudiaethau cyfathrebu, gwyddor gwleidyddiaeth, rheolaeth, a theori trefniadaethol, yn ogystal ag agweddau pwysig o ymddygiad gwyrdröedig cwltiau crefyddol.

Dywedir weithiau bod meddwl grŵp yn digwydd o fewn i grwpiau naturiol yn y gymdeithas. Gall esbonio, er enghraifft, gwahaniaethau gydol oes yn ffordd o feddwl pobl syn arddel gwahanol safbwyntiau gwleidyddol e.e. "ceidwadaeth" a "rhyddfrydiaeth" yng nghyd-destun gwleidyddol yr UDA neu fuddion tybiedig gweithio fel aelod o dim neu weithio yn unigol. Fodd bynnag, nid ywr cydymffurfiaeth sahbwyntiau hwn o fewn i grwp yn gysylltiedig gyda gwneud penderfyniadau bwriadol ar y cyd, ac efallai bod y duedd i gytuno rhwng aelodau unigol or grŵp yn well esboniad ohono.

Cafodd y rhan fwyaf or ymchwil cychwynnol ar feddwl grŵp ei gynnal gan Irving Janis, seicolegydd o Brifysgol Yale. Cyhoeddodd Janis gyfrol ddylanwadol yn 1972, a adolygwyd yn 1982. Defnyddiodd Janis drychineb Baer Moch y methiant i gipio Ciwba Castro yn 1961 ar ymosodiad Siapaniaidd ar Pearl Harbor yn 1941 fel y ddwy brif astudiaeth achos. Mae astudiaethau diweddarach wedi asesu ac ailffurfio ei fodel meddwl grŵp.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →