Back

ⓘ Set, mathemateg. Mewn mathemateg, mae set yn gasgliad o wrthrychau gwahanol, a ystyrir fel gwrthrych. Er enghraifft, maer rhifau 2, 4, a 6 yn unedau unigryw wrt ..



Set (mathemateg)
                                     

ⓘ Set (mathemateg)

Mewn mathemateg, mae set yn gasgliad o wrthrychau gwahanol, a ystyrir fel gwrthrych. Er enghraifft, maer rhifau 2, 4, a 6 yn unedau unigryw wrth eu hystyried ar wahân, ond pan gânt eu hystyried ar y cyd, mewn grŵp, maent yn ffurfio set sengl o dri, a gaiff ei sgwennu fel {2.4.6}. Maer cysyniad o set yn un o feysydd craidd mathemateg. Fei datblygwyd ar ddiwedd y 19g ac mae theori set, bellach, yn rhan anhepgor o fathemateg. Yn y byd addysg, addysgir pynciau elfennol y theori set megis diagramau Venn yn y blynyddoedd cynnar, tra bod cysyniadau mwy cymhleth yn cael eu haddysgu fel rhan o radd prifysgol.

Cafodd y gair Almaeneg am set, sef menge, ei fathu gan Bernard Bolzano, un o arloeswyr y maes hwn, yn ei lyfr Paradocsaur Anfedirol Paradoxien des Unendlichen ; 1851.

                                     

1. Disgrifio setiau

Ceir dwy ffordd o ddisgrifio aelodau o set. Un ffordd yw trwy ddefnyddio rheol neu ddisgrifiad semantig:

A ywr set y mae ei aelodau yn y pedwar cyfanrif positif cyntaf. B yw set o liwiau baner Ffrengig.

Yr ail ffordd yw trwy estyniad - hynny yw, gan restru pob aelod or set oddi fewn i gromfachau gwefus:

C = {4, 2, 1, 3} D = {glas, gwyn, coch}.

Yn aml, gellir dewis rhwng y naill neur llall. Yn yr enghreifftiau uchod, er enghraifft, A = C a B = D.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →