Back

ⓘ Ganglion. Clwstwr o gelloedd nerfol ywr ganglia neu grŵp o gelloedd cyrff nerfol sydd wediu lleoli yn y system nerfol awtonomig ar system synhwyraidd. Maer gang ..



Ganglion
                                     

ⓘ Ganglion

Clwstwr o gelloedd nerfol ywr ganglia neu grŵp o gelloedd cyrff nerfol sydd wediu lleoli yn y system nerfol awtonomig ar system synhwyraidd. Maer ganglia yn lletya celloedd cyrff nerfau afferol a nerfau echddygol.

Mae pseudoganglion yn edrych fel ganglia, ond mae ganddo ffibrau nerf yn unig ac nid oes ganddo gyrff celloedd nerfol.

                                     

1. Strwythur

Maer ganglia yn cynnwys yn bennaf strwythurau somata a dendritig syn cael eu bwndelu neu eu cysylltu. Maer ganglia yn aml yn cydgysylltu â ganglia arall i ffurfio system gymhleth o ganglia a elwir yn plexws. Maer ganglia yn darparu pwyntiau cyfnewid a chysylltiadau cyfryngol rhwng gwahanol strwythurau niwrolegol yn y corff, megis y systemau nerfol ymylol a chanolog.

Ymhlith y fertebratau mae yna dri prif grŵp o ganglia:

  • Ganglia awtonomig syn cynnwys celloedd cyrff y nerfau awtonomig.
  • Ganglia gwreiddiau dorsal a elwir hefyd yn ganglia sbinol syn cynnwys celloedd cyrff y niwronau synhwyraidd afferol.
  • Ganglia nerf cranial syn cynnwys celloedd cyrff y niwronau nerf cranial.

Yn y system nerfol awtonomig, gelwir ffibrau or system nerfol ganolog ir ganglia yn ffibrau preganglionig, tra gelwir y rhai or ganglia ir organ effaithor yn ffibrau postganglionig.

                                     

1.1. Strwythur Ganglia gwaelodol

Maer term "ganglia" yn cyfeirio at y system nerfol ymylol.

Fodd bynnag, yn yr ymennydd rhan or system nerfol ganolog, maer "ganglia gwaelodol" yn grŵp o niwclysau syn gysylltiedig âr cortex, y thalamws a choesyn yr ymennydd, syn gysylltiedig ag amrywiaeth o swyddogaethau: rheolaeth dros symudiadau, gwybyddiaeth, emosiynau, a dysg.

Yn rhannol oherwydd yr amwysedd hwn, maer Terminologia Anatomica yn argymell defnyddior term niwclews sylfaenol yn hytrach na ganglia gwaelodol; fodd bynnag, ni chafodd y defnydd hwn ei fabwysiadu yn gyffredinol.

                                     

1.2. Strwythur Pseudoganglia

Mae pseudoganglion yn dewychiad o brif ran neu fongorff y nerf syn edrych fel ganglia ond mae yna ffibriau nerf yn unig ac nid oes celloedd cyrff nerfol.

Ceir hyd ir Pseudoganglia yn y cyhyr teres lleiaf ar nerf rheiddiol.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →