Back

ⓘ Model biofeddygol. Maer model biofeddygol syn gyffredin yn niwylliannaur gorllewin wedi esblygu or cynsail o gadwr gweithlun ffit i weithion gynhyrchiol’ trwy d ..



                                     

ⓘ Model biofeddygol

Maer model biofeddygol syn gyffredin yn niwylliannaur gorllewin wedi esblygu or cynsail o gadwr gweithlun ffit i weithion gynhyrchiol’ trwy drin anhwylderaun effeithiol wrth iddyn nhw ymgodi, ac er bod ymarfer meddygol modern yn dechrau mabwysiadu llawer o nodweddion mwy holistig yr ymagwedd WHO, maen dal i fod yn seiliedig i raddau helaeth ar ddiagnosio a thrin’ ac ymagwedd sefydliadol a danategir drwy gymhwysor dull gwyddonol a phrofion clinigol, ac mae sector anferth or economin dibynnu ar y model sefydliadol hwn. Gwelir cryfderaur model biofeddygol yn ei sail wyddonol – maen gymharol hawdd adrodd am, monitro a mesur cynnydd yn nhermaur niferoedd o farwolaethau a gwellhad, y niferoedd o oriau gweithio a gollir neu a arbedir. Caiff triniaethau eu cyfiawnhau ar sail y dystiolaeth wrthrychol hon ar gost gymharol. Gellir cynnal gwerthusiad or gost yn erbyn y budd mewn ffordd syml, fel y bydd yn haws torri i lawr ar wariant gwastraffus.

Gwelir gwendidaur ymagwedd fiofeddygol yn ei methiant i fynd ir afael â lles cydol oes. Felly byddir yn mynd ir afael ag ymarferion gwael ddim ond yn nhermaur maen prawf ffitrwydd i weithio’. Rhoddir ond ychydig o werth i ymagwedd holistig at iechyd, meddygaeth draddodiadol neu therapïau amgen, i raddau helaeth oherwydd natur oddrychol, anecdotaidd y sail dystiolaethol ir dulliau hyn. Gellir canfod bod cleifion yn dioddef yn seicolegol or ymagwedd amhersonol a sefydliadol hon, ac mae llawer yn ceisio therapyddion amgen.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →