Back

ⓘ Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 3 Ebrill 1987 i ailddatblygu hen ardaloedd diw ..



Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd
                                     

ⓘ Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd

Sefydlwyd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 3 Ebrill 1987 i ailddatblygu hen ardaloedd diwydiannol Caerdydd i greu Bae Caerdydd.

                                     

1. Amcanion

Fe osododd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Nicholas Edwards ddatganiad cenhadaeth CDBC fel:

I roi Caerdydd ar y map rhyngwladol fel dinas arforol ragorol fydd yn gymharol ac unrhyw fath ddinas yn y byd, ac felly yn gwella delwedd a ffyniant economaidd Caerdydd a Chymru yn ei gyfanrwydd.

Y pum prif nodau ac amcanion oedd:

  • I sefydlur ardal fel canolfan gydnabyddedig o ragoriaeth ac arloesedd yn y maes adfywiad trefol.
  • I ddod a chymysgedd o ddatblygiadau a fydd yn creu ystod eang o gyfleoedd swyddi a fydd yn adlewyrchu gobeithion a dyheadau cymunedaur ardal.
  • I gyflawnir safon uchaf posib o ddylunio ac ansawdd ar draws yr holl fathau o ddatblygiadau a buddsoddiad.
  • I hyrwyddo datblygiad a darparu amgylchfyd rhagorol lle fydd pobl eisiau byw, gweithio a chwarae
  • I ailgysylltu Dinas Caerdydd gydai lannau.

Roedd y CDBC yn bennaf gyfrifol am adeiladu Morglawdd Bae Caerdydd, canolfan siopa a thai ar draws yr hen ddociau yn y 1990au a datblygiad Plas Roald Dahl.

                                     

2. Llwyddiannau

Yn ystod bywyd CDBC, adeiladwyd 14.000.000 troedfedd sgwar 1.300.000 m 2 o ddatblygiad nad oedd yn dai a 5.780 o unedau tai. Crewyd 31.000 o swyddi a buddsoddwyd tua £1.8 biliwn o gyllid preifat. Adferwyd tua 200 acr 81 ha o dir diffaith.

Y Cadeirydd oedd Sir Geoffrey Inkin. Y Prif Weithredwr cyntaf oedd Barry Lane, a olynwyd gan Michael Boyce.

Fe ddiddymwyd y CDBC ar 31 Mawrth 2000. Ar 1 Ebrill 2000 gwnaeth Awdurdod Harbwr Caerdydd gymryd drosodd rheolaeth y CDBC or morglawdd, y Bae Mewndirol ar afonydd Taf ac Elai.

Fe gyhoeddwyd gwerthusiad o adfywiad Bae Caerdydd yn 2004 a daeth ir casgliad fod y prosiect wedi "atgyfnerthu safle cystadleuol Caerdydd" a "wedi cyfrannu at welliant anferthol yn ansawdd yr amgylchedd adeiledig". Fodd bynnag, nid oedd y prosiect adfywio wedi llwyddo gymaint o ran creu cyflogaeth. Gorffennodd y gwerthusiad drwy ddweud fod "y canlyniad, er yn gyflawniad mawr a cham anferth ymlaen, yn cwympon fyr or weledigaeth wreiddiol."

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →