Back

ⓘ Cyfeillion y Ddaear. Mudiad amgylcheddol yw Cyfeillion y Ddaear syn bodoli fel rhwydwaith o sefydliadau mewn 75 o wledydd. Rhennir yn grwpiau cenedlaethol syn c ..



Cyfeillion y Ddaear
                                     

ⓘ Cyfeillion y Ddaear

Mudiad amgylcheddol yw Cyfeillion y Ddaear syn bodoli fel rhwydwaith o sefydliadau mewn 75 o wledydd. Rhennir yn grwpiau cenedlaethol syn cydlynu gwirfoddolwyr lleol y werin gwlad. Gweithredir y mudiad ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol, a lleol i ymgyrchu dros ddiogelur amgylchedd ac hyrwyddo cynaladwyedd, i wrthwynebu creulondeb i anifeiliaid ac effaith newid hinsawdd ar y blaned ai phoblogaeth, ac o blaid cyfiawnder cymdeithasol, hawliau dynol a masnach deg. Mae sawl agwedd or mudiad hefyd yn cofleidio gwrth-gyfalafiaeth, y mudiad gwrth-globaleiddio, ac anarcho-gyntefigiaeth neu anarchiaeth werdd. Lleolir yr ysgrifenyddiaeth ryngwladol yn Amsterdam er cydlynu a chefnogi prif ymgyrchoedd Cyfeillion y Ddaear. Pwyllgor gweithredol o gynrychiolwyr etholedig syn llunio polisi ac arolygu gwaith yr ysgrifenyddiaeth. Yr ymgyrchydd Karin Nansen o Wrwgwâi ywr cadeirydd rhyngwladol ers 2016.

Sefydlwyd y garfan gyntaf, Friends of the Earth FOTE yn yr Unol Daleithiau, ym 1969 gan Robert O. Anderson, dyngarwr ac un o feistrir diwydiant olew, i wrthwynebu ynni niwclear. Cyfranodd Anderson $200.000 o arian ei hun i lansior sefydliad, gyda chefnogaeth cyn-weinyddwr y Sierra Club David Brower ar ymgyrchwyr Donald Aitken a Jerry Mander. Amory Lovins oedd y gweithiwr cyntaf, ac efe a sefydlair mudiad yn y Deyrnas Unedig. Datblygodd y rhwydwaith rhyngwladol ym 1971 wrth i gynrychiolwyr o UDA, y DU, Sweden, a Ffrainc gwrdd âi gilydd.

                                     

1. Cyfeillion y Ddaear Cymru

Sefydlwyd Cyfeillion y Ddaear Cymru ym 1984, tair mlynedd ar ddeg wedi sefydlu Cyfeillion y Ddaear DU ym 1971, i ymgyrchu yn benodol yng Nghymru ar faterion amgylcheddol. Mae Cyfeillion y Ddaear Cymrun cyflogi pedwar o bobl sydd wedi eu lleoli yn bennaf yng Nghaerdydd, yn swyddir cyfarwyddwr, yr ymgyrchydd, y swyddog datblygu grwpiau lleol, ar swyddog cyfathrebu. Maen dibynnu ar unigolion am dros 90 y cant oi incwm ac ar gefnogaeth gwirfoddolwyr.

Free and no ads
no need to download or install

Pino - logical board game which is based on tactics and strategy. In general this is a remix of chess, checkers and corners. The game develops imagination, concentration, teaches how to solve tasks, plan their own actions and of course to think logically. It does not matter how much pieces you have, the main thing is how they are placement!

online intellectual game →